Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Rhaglen yr Ŵyl

12-13 Medi 2026

Programme

Tywysydd yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain gyda grŵp, wrth iddyn nhw sefyll y tu allan i Ffermdy Kennixton yn Sain Ffagan.

Taith BSL o'r Amgueddfa

13 Medi 2025

12:00-13:30

Lleoliad: Cofrestru a man cychwyn y daith yng Nghae Cilewent (gyferbyn â rhif 46)

Mae Sain Ffagan yn archwilio pob agwedd o'r ffordd yr oedd pobl Cymru'n byw, gweithio ac yn hamddena.

Bydd y daith hon am ddim i ymwelwyr B/byddar a defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ac yn mynd â chi am dro o amgylch yr amgueddfa awyr agored, i ddysgu am rhai o'r adeiladau sydd wedi cael eu symud i Sain Ffagan a'u harwyddocâd. I ymuno â'r daith, ewch i Babell y Byddar yng Nghae Cilewent cyn 12pm i gofrestru. Bydd y daith hefyd yn cychwyn o'r lleoliad hwn.

Caiff y daith hamddenol yma ei harwain mewn Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Tywysydd: Emily Rose Corby.

Bydd y daith hon yn canolbwyntio ar Eglwys Sant Teilo a Llys Llywelyn. Mae'r adeiladau yma mewn ardaloedd ychydig yn dawelach, gan roi'r cyfle i ddarganfod mwy am yr Amgueddfa i ffwrdd o brysurdeb yr Ŵyl Fwyd. Nodwch y bydd y maes parcio a mannau eraill o amgylch yr Amgueddfa yn brysur iawn yn ystod y penwythnos hwn.

Rhybudd: Oherwydd natur y safle, mae tir anwastad, llwybrau llithrig, llethrau a mannau glaswelltog mewn mannau. Cymrwch ofal wrth gerdded a gwisgwch esgidiau addas. Cyfeiriwch at wefan Sain Ffagan a thudalen we'r Ŵyl Fwyd am ein holl gallawiau mynediad.

Nifer cyfyngedig o lefydd - cyntaf i'r felin.

Dyma'r cyntaf o gyfres o Deithiau BSL a gynhelir drwy gydol y flwyddyn. Cadwch lygad ar wefan yr Amgueddfa am fwy o wybodaeth a dyddiadau yn y dyfodol.