Gweolyn Llan-gors: campwaith canoloesol cynnar

Y cloddiad ar safle Llyn Syfaddan yn 1991. Darganfuwyd y gweolyn yn y gwaddodion siltiog y tu hwnt i'r palisâd derw sydd i'w weld yn y ffos.

Y cloddiad ar safle Llyn Syfaddan yn 1991. Darganfuwyd y gweolyn yn y gwaddodion siltiog y tu hwnt i'r palisâd derw sydd i'w weld yn y ffos.

Lwmp o weolyn wedi'i ruddo y cafwyd hyd iddo'n gorwedd ar ddarn o bren.

Lwmp o weolyn wedi'i ruddo y cafwyd hyd iddo'n gorwedd ar ddarn o bren.

Rhan o'r addurn sydd wedi'i gadw ar wyneb y gweolyn, yn dangos grŵp o adar o fewn ffrâm o winwydd.

Rhan o'r addurn sydd wedi'i gadw ar wyneb y gweolyn, yn dangos grŵp o adar o fewn ffrâm o winwydd. Yn anffodus, nid oes dim o liw gwreiddiol y gweolyn wedi goroesi, sy'n golygu ei bod hi'n anodd iawn gweld y cynllun heb gymorth. Fe'i nodir yma gan y llinellau gwyng. Arwynebedd y darn yw tua 9cm o uchder wrth 7cm o led (3.5 x 2.8 modfedd).

Efelychiad digidol o liw ar ffotograff o'r gweolyn gwreiddiol.

Efelychiad digidol o liw ar ffotograff o'r gweolyn gwreiddiol.

Ym 1990 ffeindiodd archaeolegwyr oedd yn gweithio ar safle Llyn Syfaddan, ger Aberhonddu, ddarganfyddiad annisgwyl - gweddillion gweolyn, wedi'i addurno'n wych, oedd dros fil o flynyddoedd oed.

Ger glan ogleddol Llyn Syfaddan ceir crannog (ynys o wneuthuriad dyn) a fu'n safle brenhinol a adeiladwyd ar gyfer tywysog Brycheiniog yn y 890au - cyfnod cythryblus yn hanes y dywysogaeth.

Ar y pryd, roedd nifer o dywysogaethau cyfagos yn bygwth Brycheiniog, ac roedd Llan-gors, yn ôl pob golwg, yn noddfa ddiogel. Fodd bynnag, mae cloddiadau a drefnwyd gan Brifysgol Caerdydd ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru rhwng 1989 a 1993 wedi dangos mai byrhoedlog fu'r noddfa hon oherwydd fe'i dinistriwyd gan dân yn gynnar yn y ddegfed ganrif.

Roedd y gwaith ger Llan-gors yn canolbwyntio, i raddau helaeth, ar y gwaddodion siltiog dwrlawn sy'n amgylchynu'r crannog. Yn y fan yma y cafwyd hyd i'r gweolyn, wedi'i ruddo'n wael ac yn frau iawn.

O ganlyniad i driniaeth gadwraeth fanwl bu modd gwahanu a glanhau ei haenau niferus, gwaith a ddangosodd bod y lwmp anhrawiadol hwn ymhlith yr enghreifftiau pwysicaf o weolion canoloesol cynnar i'w ddarganfod ym Mhrydain hyd yn hyn.

Y defnydd sy'n sylfaen i'r gweolyn yw lliain mân iawn o wehyddiad plaen. Defnyddiwyd edefion sidan a lliain i addurno rhyw ddwy ran o dair o darn o'r gweolyn sydd ar ôl ag adar a chreaduriaid eraill o fewn fframwaith o winwydd, ac mae'r borderi yn cynnwys patrymau ailadroddus neu lewod.

Mae safon crefftwaith y gweolyn yn dal i fod yn destun rhyfeddod. Mae i'r lliain 23 edau i'r centimetr - cyflawniad gwych o ystyried yr offer oedd ar gael yn ystod y nawfed a'r ddegfed ganrif OC.

Ymddengys fod y gweolyn yn rhan o wisg neu diwnig neu ffrog efallai - mae ganddo hem a dolen ar gyfer gwregys - ond, gwaetha'r modd, nid oes digon wedi goroesi i ddangos ffurf fanwl y dilledyn.

Awgryma'r rhannau sydd wedi treulio nad oedd y dilledyn yn newydd pan gafodd ei golli, a gallwn fod yn sicr fod ei berchennog yn wraig neu'n ŵr o gryn statws oherwydd cafodd y sidan a ddefnyddiwyd i'w addurno ei fewnforio i Brydain, ac mae safon y gwniadwaith yn awgrymu y cafodd ei gynhyrchu mewn gweithdy arbenigol.

Felly, sut collwyd y gweolyn gwych hwn? Ceir cliw yn y Cronicl Eingl-Sacsonaidd ar gyfer OC916, sy'n cofnodi bod byddin Fersiaidd o Loegr wedi dinistrio safle dan yr enw Brecenanmere (Brecknock-mere = Llyn Syfaddan) yn y flwyddyn honno a chipio gwraig y brenin a 33 o bobl eraill.

Ai dyma'r digwyddiad a arweiniodd at losgi Llan-gors a cholli'r gweolyn? Mae'n demtasiwn i gredu hynny.

Darllen Cefndir

'A fine quality insular embroidery from Llangors Crannog, near Brecon' gan H. Granger-Taylor a F. Pritchard. Yn Pattern and purpose in insular art gan M. Redknap, S. Youngs, A. Lane a J. Knight, tt91-99. Cyhoeddwyd gan Oxbow Books (2001).

'Worn by a Welsh Queen?' gan L. Mumford a M. Redknap. Yn Amgueddfa, cyf. 2, tt52-4 (1999).

'The Llangorse textile; approaches to understanding an early medieval masterpiece' gan L. Mumford, H. Prosser a J. Taylor, mewn C. Gillis and M.-L. B. Nosch (eds), Ancient Textiles: Production, Craft and Society, 158-62. Cyhoeddwyd gan Oxbow Books (2007).

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Patricia Griffiths
9 Hydref 2017, 16:06
I attended a fascinating lecture on the Llangors textile at the WSD Guild event in Llanidloes this weekend so was interested to search foe more information.