Digwyddiad:Calan Gaeaf gyda Jig-So
Camwch i fyd Calan Gaeaf gyda Jig-So am sesiwn chwarae ymarferol ac ymlaciol lle gall plant archwilio, creu a dychmygu.
Mae’r digwyddiad galw-heibio hwyliog hwn wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer plant ifanc a’u teuluoedd, gyda digon i’w wneud ar eich cyflymder eich hun.
Beth sy’n digwydd?
Gwnewch eich tŷ arswydus eich hun i fynd adref gyda chi.
Archwiliwch bosau, chwarae synhwyraidd a chwarae byd bach.
Byddwch yn greadigol wrth ein bwrdd crefft gyda gweithgareddau lliwio cŵl a chlai chwarae.
Amser stori arswydus!
Mae’r digwyddiad yma’n rhad ac am ddim, ond bob tro y byddwch chi’n cyfrannu rhodd boed fach neu fawr, byddwch yn ein helpu i sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.
Gallwch gyfrannu drwy ymweld Cefnogwch ni | Amgueddfa Cymru
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 4yp.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.
Lleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleParcio
Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd