Cwrs:CREU Ffibrau: Printio Botaneg
Byddan nhw’n cael eu gosod ar bapur neu ddefnydd cyn cael eu stemio i ryddhau’r lliwiau. Byddwn ni’n crwydro tir yr Amgueddfa ac yn casglu dail a blodau o’r coed a’r Ardd Liwurau Naturiol i chi gael creu eich dyluniadau eich hunain. Mae’r printiau’n fan cychwyn da ar gyfer cardiau, brodwaith neu bocedi arbennig a bagiau hyd yn oed. Gallwch hefyd arbrofi gyda'r dechneg curo blodau "Tataki Zome".
Mae’r diwrnod yn addas i ddechreuwyr pur. Bydd yr holl ddeunyddiau, offer a dillad gwarchodol yn cael eu darparu, ond cofiwch wisgo dillad addas ag esgidiau caeedig nid sandalau. Gallwch chi hefyd ddod â llyfr nodiadau a chamera/ffôn hefyd.
Caiff menig (heb latecs), masgiau,ffedogau a gogls eu darparu.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.
- Cynhelir y cwrs yn Saesneg.
- Cyfyngiad Oedran:16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)
- Lleoliad: Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Llandysul, Sir Gaerfyrddin, Defnyddiwch SA44 5UP ar gyfer llywio lloeren.
- Hygyrchedd: Mae ein gofod addysg yn gwbl hygyrch. Cysylltwch â gwlan@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.
Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.
Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.
Gwybodaeth
Printio Botaneg
Printio Botaneg
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd