Digwyddiadau

Cwrs: Printio Botaneg

Amgueddfa Wlân Cymru
6 Gorffennaf 2024, 10:30am - 4pm
Pris £80 | £65 Gostyngiad
Addasrwydd 16+*

Printio Botaneg 

Printio Botaneg 

Archebu Tocynnau 

 
Dewch i ddysgu am fyd printio botaneg lle caiff lluniau o ddail a blodau eu creu drwy ddefnyddio lliwiau naturiol y planhigion eu hunain.
 

Byddan nhw’n cael eu gosod ar bapur neu ddefnydd cyn cael eu stemio i ryddhau’r lliwiau. Byddwn ni’n crwydro tir yr Amgueddfa ac yn casglu dail a blodau o’r coed a’r Ardd Liwurau Naturiol i chi gael creu eich dyluniadau eich hunain. Mae’r printiau’n fan cychwyn da ar gyfer cardiau, brodwaith neu bocedi arbennig a bagiau hyd yn oed.

Mae’r diwrnod yn addas i ddechreuwyr pur. Bydd yr holl ddeunyddiau, offer a dillad gwarchodol yn cael eu darparu, ond cofiwch wisgo dillad addas. Gallwch chi hefyd ddod â llyfr nodiadau a chamera/ffôn hefyd.


Gwybodaeth Ychwanegol

  • Darperir lluniaeth ysgafn. Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â’n bwytai a chaffis ar y safle.
  • Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.
  • Cynhelir y cwrs yn Saesneg.
  • Cyfyngiad Oedran:16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)
  • Lleoliad Defnyddiwch SA44 5UP ar gyfer llywio lloeren.
  • Hygyrchedd: Mae ein gofod addysg yn gwbl hygyrch. Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.

Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.


Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.

Digwyddiadau