Cwrs:CREU Ffibrau: Creu Het Bobyl
Dewch i greu het bobyl unigryw mewn gweithdy creadigol yn Amgueddfa Wlân Cymru.
Gyda chefnogaeth aelod profiadol o dîm yr Amgueddfa, byddwch yn dysgu sut i wneud eich het eich hun, gan ddewis o amrywiaeth o liwiau ar y diwrnod. Bydd digon o amser i weithio ar eich prosiect, datblygu eich sgiliau a mwynhau awyrgylch hamddenol a chyfeillgar.
Gallai’r het orffenedig fod yn anrheg Nadolig arbennig wedi’i gwneud â llaw, neu’n rhywbeth cynnes i chi ei gadw eich hun.
Bydd tocynnau ar werth tan ddydd Mercher 4 Tachwedd 2026, oni bai eu bod yn gwerthu allan yn gynt. Ar ôl y dyddiad hwn, ffoniwch 02902 573070 i wirio a oes unrhyw leoedd ar gael o hyd.
Cynhelir y gweithdy yn Saesneg.
Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.
Yn addas ar gyfer oedolion a phlant 12+. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
Hygyrchedd: Mae ein gofod addysg yn gwbl hygyrch. Cysylltwch â gwlan@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.
Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.
Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.
Gwybodaeth
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 7 Tachwedd 2026 | 10:30 | Gweld Tocynnau |
Ymweld
Oriau Agor
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 4yp.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.
Lleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleParcio
Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd