Cwrs:CREU Ffibrau: Sesiwn Blasu- Dysgu Nyddu
Tocynnau ar werth yn fuan!
Dewch i ddarganfod y grefft draddodiadol o nyddu â llaw yn ystod y sesiwn flasu ymarferol a hamddenol yn Amgueddfa Wlân Cymru.
Gyda chefnogaeth ac arweiniad drwy gydol y sesiwn, cewch gyfle i roi cynnig ar nyddu eich hun a dysgu mwy am sut mae gwlân yn cael ei droi'n edafedd. Bydd y sesiwn yn ddwyieithog ac yn addas i ddechreuwyr.
Tocynnau ar werth tan ddydd Gwener 9 Hydref. Ar ôl hyn, ffoniwch 02920 573070 i weld a oes tocynnau ar gael.
Gwybodaeth Ychwanegol.
Cyfyngiad Oedran:18+.
Cysylltwch â gwlan@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.
Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.
Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 4yp.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.
Lleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleParcio
Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd