Digwyddiad:Diod-Offrwm Rhan II Gwlân Cymreig, Caethwasiaeth a Hunaniaeth: Gwau Gwreiddiau
Amgueddfa Wlân Cymru
Wedi'i Orffen
Mae digwyddiad dathlu Gwau Gwreiddiau yn gyfle i gloddio'n ddyfnach i'r broses artistig a’r straeon gafodd eu datgelu yn arddangosfa Diod-Offrwm Rhan II Gwlân Cymreig, Caethwasiaeth a Hunaniaeth. Mae’r arddangosfa’n edrych ar rôl brethyn Cymreig ‘Welsh Plains’ wrth ddileu a difrïo hunaniaeth Affricanaidd pobl gafodd eu caethiwo. Roedd tecstilau yn rhan annatod o’u hunaniaeth cyn trefedigaethu. Mae’r artist Lucille Junkere, fydd wrth law drwy’r dydd, yn defnyddio mygydau ac arteffactau eraill i gynrychioli treftadaeth Akan, Ashanti, Yorùbá, Igbo, Ibibio, Éwé a Bantu y bobl gafodd eu caethiwo er mwyn gweithio ar blanhigfa mwyaf proffidiol Prydain, Jamaica. Mae gwlanen Gymreig, gweddillion gwlân o garthenni a blancedi, cotwm, a lliwurau naturiol o’r Caribî a Gorllewin Affrica gan gynnwys indigo, logwd, ffystig, pren brasil a chnau Kola yn cynrychioli’r defnyddiau diwylliannol traddodiadol gafodd eu cadw rhag y bobl yn ystod eu caethiwed.
Mae'r diwrnod agored yn gyfle i ymwelwyr newydd ddarganfod mwy am yr arddangosfa. Does dim angen archebu tocyn, dewch draw i ddysgu mwy...
11am-1pm: Bydd Lucille yn ystafell Addysg yr Amgueddfa yn rhoi arddangosiadau o liwio indigo naturiol, yn rhannu deunyddiau ac yn sgwrsio am ei harfer lliwio indigo personol gan gyfeirio at un o'r ffigyrau yn yr arddangosfa.
2-4.30pm: Bydd Lucille yn yr oriel yn cymryd rhan mewn sgyrsiau anffurfiol am yr arddangosfa a'i gwaith.
Gwybodaeth
11 Hydref 2025,
11yb-4.30yp-Gwiriwch yr amserlen ar gyfer gweithgareddau'r dydd ar y dudalen digwyddiadau
Pris
Am Ddim
Addasrwydd
Pawb
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd