Cwrs:CREU Ffibrau: Cyflwyniad i Nyddu: O'r Cnu i'r Brethyn

Amgueddfa Wlân Cymru

Tocynnau ar werth yn fuan!

Ymunwch â’r crefftwr Non Mitchell yn Amgueddfa Wlân Cymru am gyflwyniad ymarferol i'r broses o droi cnu yn ffabrig.

Drwy gydol y gweithdy, byddwch yn darganfod sut mae cnu amrwd yn cael ei drawsnewid yn edafedd wrth i chi archwilio amrywiaeth o dechnegau ac offer traddodiadol gan roi cynnig ar amrywiaeth o dechnegau ac offer nyddu traddodiadol. Byddwch yn cael cyfle i roi cynnig ar ddefnyddio gwerthydau gollwng, olwynion nyddu a gwehyddu ar ŵydd pegiau, wrth ddysgu am y sgiliau a'r prosesau sydd wrth wraidd treftadaeth tecstilau Cymru.

Erbyn diwedd y sesiwn, byddwch wedi creu pad clustog bach i fynd adref gyda chi . Mae’r gweithdy’n addas i ddechreuwyr, a darperir yr holl ddeunyddiau.

Bydd tocynnau ar werth tan ddydd Mercher 25 Tachwedd 2026, oni bai eu bod yn gwerthu allan yn gynt. Ar ôl y dyddiad hwn, ffoniwch 02902 573070 i wirio a oes unrhyw leoedd ar gael o hyd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw. Cynhelir y cwrs yn ddwyieithog. Cyfyngiad Oedran:16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan). Hygyrchedd: Mae ein gofod addysg yn gwbl hygyrch. Cysylltwch â gwlan@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.

Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.


Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.

Gwybodaeth

28 Tachwedd 2026, 10.00yb - 3.30yp
Pris £85 | £70
Addasrwydd 16+*
Archebu lle Rhaid archebu lle
Grŵp cymryd rhan mewn cwrs O'r Cnu i'r Brethyn
Logo Penblwydd 50
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

 Oriau Agor

Dydd Llun Ar gau
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul Ar gau

Ar agor ar wyliau banc, heblaw am y Nadolig.

 Mynediad

Gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl.

Canllaw Mynediad

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 4yp. 
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.

 Lleoliad

 Parcio

Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau