Digwyddiad:Dydd Gŵyl Dewi: Straeon a Rhythmau Clocsio
Dathlwch Dydd Gŵyl Dewi gyda digwyddiad hwyliog a chyfeillgar i’r teulu, yn llawn straeon Cymreig, rhythm a symudiad.
Archebwch ein Tocyn Gweithdy Teuluol Dydd Gŵyl Dewi, sy’n cynnwys adrodd straeon gyda Lowri Siôn a gweithdy clocsio a rhythm bywiog gyda Tudur Phillips, pencampwr clocsio sy’n torri recordiau.
🎟️ Tocyn Gweithdy – £10
Mae un tocyn yn cynnwys y ddau weithdy
10.30–11.30
Amser Stori gyda Lowri Siôn
11.30–11.45
Seibiant picau ar y maen a sgwash
12.00–12.45
Gweithdy clocsio a rhythm gyda Tudur
Dysgwch gamau clocsio syml, archwiliwch rhythm, a chymryd rhan mewn gemau symudiad hwyliog i blant.
✔ £10 y plentyn (Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Oherwydd prinder lle, dim ond un oedolyn all ymuno ar gyfer pob archeb.)
✔ Cynhelir y gweithdai mewn yr Ystafell Addysg
🎨 Gweithgareddau Am Ddim (10.30yb-2yp)
Crefftau teuluol ar thema Cymru yn yr Iard Hir.
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd