Cwrs:CREU Ffibrau: Gweithdy Lliwio Naturio - Cochion o Gochwraidd

Amgueddfa Wlân Cymru
Wedi'i Orffen

TOCYNNAU AR WERTH YN FUAN!Ymunwch â ni am weithdy lliwio naturiol arbennig i ddathlu 50 mlynedd Amgueddfa Wlân Cymru. Byddwn yn defnyddio planhigion o Ardd Liwurau'r Amgueddfa i greu'r lliw coch eiconig o gochwraidd a threialu'r friwydd felen a Chroeslys cawcasaidd. Dim ond bob tair blynedd y caiff y planhigion hyn eu cynaeafu. Drwy ychwanegu addaswyr, byddwch yn arbrofi i greu amrywiaeth o samplau mewn gwahanol arlliwiau.
Diwrnod hamddenol sy'n addas i ddechreuwyr a'r rhai mwyaf profiadol yw hwn. Darperir yr holl ddeunyddiau ac offer, gan gynnwys masgiau, menig, ffedogau a gogls.

Gwisgwch ddillad addas ac esgidiau caeedig nid sandalau. Gallwch ddod â llyfr nodiadau a chamera/ffôn os dymunwch. 

Gwybodaeth Ychwanegol  

Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.  

Iaith

Cynhelir y cwrs yn Saesneg yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Llandysul. SA44 5UP

Cyfyngiad Oedran

16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)

Hygyrchedd

Mae ein gofod addysg yn gwbl hygyrch. Cysylltwch â gwlan@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.  

Defnyddiwch SA44 5UP ar gyfer llywio lloeren. 

Canllawiau Iechyd a Diogelwch i fyfyrwyr y cwrs

Mae'n bosib bydd llwch o blanhigion wedi'u sychu.  Bydd masgiau llwch yn cael eu darparu. Rhowch wybod i’r tiwtor ar y diwrnod os oes gennych chi sensitifrwydd anadlu a bod angen i chi sefyll y tu allan i’r ardal waith. Mae’r gweithdy hwn yn defnyddio gwlân, felly cadwch hyn mewn cof os oes gennych chi alergedd i wlân/lanolin. 

Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.


Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.

Gwybodaeth

2 Mai 2026, 10.30yb-4yp
Pris £85 I £70 Gostyngiad
Addasrwydd 16+
Archebu lle Rhaid Archebu Lle
AWC MADR 3
Madr 2
Madr 1
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau