Digwyddiad:Cwrdd â Johnny Lewis – Teithiau Tywys mewn Gwisg
Camwch yn ôl mewn amser a chwrdd â Johnny Lewis, perchennog go iawn Ffatri Cambrian, sydd bellach yn gartref i Amgueddfa Wlân Cymru, o’r 1920au i'r 1950au.
Cymerwch daith dywys gyda Johnny a darganfyddwch sut mae gwlân yn cael ei newid o ddafad i ddefnydd. Wrth i chi grwydro’r Amgueddfa fe welwch ein peiriannau hanesyddol ar waith gan ein crefftwyr medrus, yn union fel yr oeddent yn oes aur y melinau.
Cofiwch ymweld â Gofod Gwneud a Chreu – wedi’i ddylunio ar gyfer dychymyg, creu a chreadigrwydd cymunedol.
Taith Tywys gan Johnny Lewis
Cwrdd wrth y Dderbynfa
*Taith 1: 10.30yb (Taith Cymraeg)
*Taith 2: 12.15yp (Taith Saesneg)
*1.30yp-3pm: Bydd Johnny hefyd yn crwydro'r Amgueddfa yn ystod y cyfnod hwn, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn stopio i ddweud helo. Bydd yn falch o ateb cwestiynau a rhannu mwy o straeon o'i gyfnod yn y felin.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd