Digwyddiad:Y Cwtsh Creadigol: Crefftio a Sgwrsio
Dewch i gwtsh creadigol yr Amgueddfa - lle i ymlacio, i grefftio ac i deimlo'n gartrefol. Dewch a'ch gwaith gwnio, pwytho, neu unrhyw prosiect cludadwy eich hun, gan bwytho sgyrsiau yn Gymraeg, p'un a'i ydych yn rhugl neu'n dal i ddod o hyd i'ch edefyn.
Croeso gwlanog i bawb!
Mewn partneriaeth â Menter Gorllewin Sir Gâr
Dyddiadau 2026:
11 Medi
9 Hydref
13 Tachwedd
11 Rhagfyr
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 4yp.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.
Lleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleParcio
Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd