Digwyddiad:Gwau Gwryd: Cystadleuaeth Gwau

Amgueddfa Wlân Cymru
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu 50 mlynedd o Amgueddfa Wlân Cymru gyda digwyddiad arbennig Gwau Gwryd- a chyfle i ennill sgarff hardd Amgueddfa Wlân Cymru!

Camwch mewn i draddodiad bywiog Gwau Gwryd - sef cyfarfod gwau cymdeithasol sydd wedi'i wreiddio mewn  traddodiad yng Ngorllewin Cymru. Roedd pobl yn dod at ei gilydd i wau, sgwrsio, rhannu straeon a mwynhau ychydig o gystadlu cyfeillgar.

Heddiw, mae'n gyfle i arafu, cysylltu, a bod yn rhan o'r un ysbryd- lle mae gwau'n dod â chymuned ynghyd, sgwrsio a chystadlu cyfeillgar.

Beth am gymryd rhan yn y traddodiad hwn? Os hoffech cymryd rhan, archebwch eich tocyn am ddim. Mae croeso mawr i wylwyr- dewch draw i fwynhau - dim angen archebu tocyn.

1yp–2yp: Mwynhewch adrodd straeon ac adloniant gan y storïwr, actor, digrifwr ac awdur Ceri John Phillips wrth i chi gastio 20 pwyth.

2yp–2.50yp: Mae’r gystadleuaeth yn dechrau! Yn y sialens 50 munud hon (1 munud am bob blwyddyn o’r Amgueddfa), bydd pob cyfranogwr yn cael yr un hyd o wlân Cymreig a byddwn yn gweld pwy all orffen yn gyntaf.

Enillwch sgarff hardd Amgueddfa Wlân Cymru!

Y cyfranogwr cyntaf i orffen bydd yn ennill y wobr arbennig hon, gyda'r tri amser gorffen gorau yn cael eu cofnodi! Bydd pob cyfranogwr yn rhoi’r gorau i wau pan fydd y terfyn amser o 50 munud wedi’i gyrraedd.

Yn ystod y gystadleuaeth, bydd y delynores Delyth Jenkins yn darparu cyfeiliant cerddorol byw.

4yp: Bydd arddangosiadau dewisol o’r peiriannau hanesyddol yn cael eu cynnal.


Gwybodaeth Archebu Tocynnau i Gystadleuwyr:
•    Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig ac mae rhaid archebu ymlaen llaw. 
•    Mae’r gweithgaredd yn addas i oedolion 18+.
•    Mae croeso i wylwyr ddod draw i fwynhau- nid oes angen tocyn.


Gwybodaeth bellach:
•    Maint nodwyddau gwau: 5 mm (dewch â’ch rhai eich hun os yn bosibl; bydd nifer gyfyngedig ar gael)
•    Darperir gwlân Cymreig
•    Rhaid i bob cyfranogwr defnyddio pwyth gardas (pwyth gwau ar bob rhes)
•    Ar ôl y gystadleuaeth, mae croeso i chi ymweld â’r caffi, lle bydd lluniaeth ar gael i’w phrynu

Gwybodaeth

16 Mai 2026, 1yp-4.30yp
Pris Am ddim
Addasrwydd Rhaid i gystadleuwyr fod yn 18+. Addas i bawb.
Archebu lle Angenrheidiol i gystadleuwyr. Os nad ydych yn cymryd rhan, nid oes angen prynu tocyn.
Sgarff
Gwau
AWCD 50 Logo
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau