Sgwrs:CREU Sgyrsiau: Stori Gynaliadwy Gwlân

Amgueddfa Wlân Cymru

Tocynnau ar werth yn fuan!

Dewch i ddarganfod pam mae gwlân yn parhau i fod yn ddeunydd mor bwysig yn ystod y sesiwn ddiddorol hon gyda’n curadur.

Dysgwch am briodweddau naturiol gwlân, sut mae wedi cael ei ddefnyddio drwy gydol hanes a pham mae gan y ffibr adnewyddadwy ac amlbwrpas hwn ran bwysig i’w chwarae mewn dyfodol mwy cynaliadwy. Bydd cyfle hefyd i greu potyn bach o wlân i fynd adref gyda chi.

Addas ar gyfer: Oedolion 18+
Iaith: Cynhelir y sgwrs yn Saesneg
Deunyddiau: Darperir yr holl ddeunyddiau
Rhaid archebu: Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael

Telerau ac Amodau

Mae’r Amgueddfa’n cadw’r hawl i ganslo sgwrs neu newid dyddiad(au).
Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr Amgueddfa yn ceisio trefnu dyddiad(au) eraill. Os na ellir cytuno ar ddyddiad arall, yna bydd yr Amgueddfa yn cynnig ad-daliad llawn.
Ni all Amgueddfa Cymru gynnig unrhyw ad-daliad os byddwch chi’n penderfynu canslo neu’n methu â mynychu sgwrs yr ydych wedi archebu lle arno.
Mewn amgylchiadau eithriadol*, pan fyddwch wedi cysylltu â’r Amgueddfa o leiaf 4 wythnos cyn dyddiad eich sgwrs, byddwn yn ystyried cynnig dyddiad arall neu ad-daliad llawn i chi.
Ni fyddwn yn cynnig unrhyw drefniadau eraill yn yr amgylchiadau canlynol:
• Archeb wedi’i chanslo o fewn 4 wythnos i ddyddiad y sgwrs (oni bai fod rhestr aros ar gyfer y sgwrs a bod modd i ni ail-werthu eich tocyn ar fyr-rybudd)
• Ni allwch deithio i’r cwrs oherwydd problemau trafnidiaeth, tywydd gwael neu gwmnïau trafnidiaeth yn canslo gwasanaethau.

Mae rhaglen arddangosfeydd ac ymgysylltu cyhoeddus Amgueddfa Cymru yn bosib diolch i gefnogaeth chwaraewyr y Postcode Lottery 



Gwybodaeth

2 Hydref 2026, 10.30yb-11.30yb
Pris £10 y person
Addasrwydd 18+
Archebu lle Rhaid archebu lle
Curadur
Dafad
Sgwrs Curadur
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

 Oriau Agor

Dydd Llun Ar gau
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul Ar gau

Ar agor ar wyliau banc, heblaw am y Nadolig.

 Mynediad

Gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl.

Canllaw Mynediad

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 4yp. 
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.

 Lleoliad

 Parcio

Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau