Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Dewch i ddathlu’r hydref mewn gweithdy creadigol a hamddenol yn Amgueddfa Wlân Cymru.
Ymunwch â’r Technegydd Crefft, Jody Smart, i greu eich pwmpen hydrefol eich hun wedi’i chrosio i fynd adref gyda chi. Bydd Jody yn eich tywys gam wrth gam drwy’r broses, gan eich helpu i ddysgu neu ddatblygu eich sgiliau crosio wrth greu addurn llaw hardd ar gyfer y tymor.
P’un a ydych yn newydd i grosio neu eisoes yn mwynhau’r grefft, mae’r gweithdy hwn yn gyfle gwych i dreulio bore creadigol mewn awyrgylch cyfeillgar. Darperir yr holl ddeunyddiau.
Bydd tocynnau ar werth tan ddydd Mercher 28 Hydref 2026, oni bai eu bod yn gwerthu allan yn gynt. Ar ôl y dyddiad hwn, ffoniwch 0290 573070 i wirio a oes unrhyw docynnau ar gael o hyd.
Mae’r Amgueddfa’n cadw’r hawl i ganslo'r gweithdy neu newid dyddiad(au).Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr Amgueddfa yn ceisio trefnu dyddiad(au) eraill. Os na ellir cytuno ar ddyddiad arall, yna bydd yr Amgueddfa yn cynnig ad-daliad llawn.Ni all Amgueddfa Cymru gynnig unrhyw ad-daliad os byddwch chi’n penderfynu canslo neu’n methu â mynychu sgwrs yr ydych wedi archebu lle arno.Mewn amgylchiadau eithriadol*, pan fyddwch wedi cysylltu â’r Amgueddfa o leiaf 4 wythnos cyn dyddiad eich cwrs, byddwn yn ystyried cynnig dyddiad arall neu ad-daliad llawn i chi.Ni fyddwn yn cynnig unrhyw drefniadau eraill yn yr amgylchiadau canlynol:• Archeb wedi’i chanslo o fewn 4 wythnos i ddyddiad y Gweithdy (oni bai fod rhestr aros ar gyfer y cwrs a bod modd i ni ail-werthu eich tocyn ar fyr-rybudd)• Ni allwch deithio i’r Gweithdy oherwydd problemau trafnidiaeth, tywydd gwael neu gwmnïau trafnidiaeth yn canslo gwasanaethau.
Hygyrchedd: Mae ein mannau yn gwbl hygyrch. Cysylltwch â gwlan@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.
Dewiswch Unreserved
Ar agor ar wyliau banc, heblaw am y Nadolig.
Gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl.
Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd