Sgwrs:CREU Sgyrsiau: Cwrdd â'r Garddwraig

Amgueddfa Wlân Cymru

Bydd tocynnau'n cael eu rhyddhau'n fuan!

Ymunwch â Susan Martin, garddwraig Gardd Liwurau Naturiol Amgueddfa Wlân Cymru, a darganfyddwch sut mae planhigion wedi cael eu defnyddio ers canrifoedd i greu ystod syfrdanol o liwiau naturiol ar gyfer lliwio edafedd.

Darganfyddwch y cysylltiadau diddorol rhwng planhigion, lliwiau, tecstilau, a sgiliau traddodiadol. Archwiliwch blanhigion a ddefnyddir wrth gynhyrchu tecstilau, gan gynnwys cribellau, a gweld llin yn cael ei dyfu ar gyfer nyddu edafedd lliain. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i weld cnwd llin y llynedd yn cael ei brosesu  i ryddhau ei ffibrau a rhoi cynnig ar y torrwr llin eich hunan.

Cewch gipolwg ar y planhigion, y prosesau a'r sgiliau traddodiadol sydd wrth wraidd cynhyrchu tecstilau.

Cynhelir y sgwrs yn Saesneg.   

Oedrannau 18+

Sylwer fod yr Ardd Liwurau Naturiol yn ardal laswelltog ac nad oes llwybrau ffurfiol ynddi. Cysylltwch â gwlan@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.              

Telerau ac Amodau

Mae’r Amgueddfa’n cadw’r hawl i ganslo sgwrs neu newid dyddiad(au).
Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr Amgueddfa yn ceisio trefnu dyddiad(au) eraill. Os na ellir cytuno ar ddyddiad arall, yna bydd yr Amgueddfa yn cynnig ad-daliad llawn.
Ni all Amgueddfa Cymru gynnig unrhyw ad-daliad os byddwch chi’n penderfynu canslo neu’n methu â mynychu sgwrs yr ydych wedi archebu lle arno.
Mewn amgylchiadau eithriadol*, pan fyddwch wedi cysylltu â’r Amgueddfa o leiaf 4 wythnos cyn dyddiad eich cwrs, byddwn yn ystyried cynnig dyddiad arall neu ad-daliad llawn i chi.
Ni fyddwn yn cynnig unrhyw drefniadau eraill yn yr amgylchiadau canlynol:
• Archeb wedi’i chanslo o fewn 4 wythnos i ddyddiad y Cwrs (oni bai fod rhestr aros ar gyfer y cwrs a bod modd i ni ail-werthu eich tocyn ar fyr-rybudd)
• Ni allwch deithio i’r cwrs oherwydd problemau trafnidiaeth, tywydd gwael neu gwmnïau trafnidiaeth yn canslo gwasanaethau.

Mae rhaglen arddangosfeydd ac ymgysylltu cyhoeddus Amgueddfa Cymru yn bosib diolch i gefnogaeth chwaraewyr y Postcode Lottery 

Gwybodaeth

30 Gorffennaf 2026, 10.30yb-11.30yp
Pris £25yp I £20yp Gostyngiad
Addasrwydd Oedolion
Archebu lle Rhaid Archebu Lle
SM 1
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

 Oriau Agor

Dydd Llun Ar gau
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul Ar gau

 Mynediad

Gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl.

Canllaw Mynediad

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 4yp. 
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.

 Lleoliad

 Parcio

Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau