Sgwrs:CREU Sgyrsiau: Archaeoleg Guradurol – Olrhain Hanes Blanced Castell Caernarfon
Archwiliwch hanes un o batrymau blancedi mwyaf nodedig Cymru mewn sesiwn ddifyr sy’n cyfuno hanes, gwrthrychau ac ymchwil guradurol.
Ymunwch â ni i ddarganfod mwy am y diwydiant defaid a gwlân yng Nghymru ac i archwilio gwrthrychau o gasgliad yr Amgueddfa, gan gynnwys blanced wreiddiol Castell Dwbl Caernarfon. Drwy arsylwi’n fanwl a thrafod y gwrthrychau, byddwch yn gweld sut mae dyluniadau’n datblygu dros amser a sut mae curaduron yn defnyddio gwrthrychau fel tystiolaeth i ddatgelu straeon am ddeunyddiau, cynhyrchu a chwaeth sy’n newid.
Cynhelir y sgwrs yn Saesneg.
Telerau ac Amodau
Mae’r Amgueddfa’n cadw’r hawl i ganslo sgwrs neu newid dyddiad(au).
Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr Amgueddfa yn ceisio trefnu dyddiad(au) eraill. Os na ellir cytuno ar ddyddiad arall, yna bydd yr Amgueddfa yn cynnig ad-daliad llawn.
Ni all Amgueddfa Cymru gynnig unrhyw ad-daliad os byddwch chi’n penderfynu canslo neu’n methu â mynychu sgwrs yr ydych wedi archebu lle arno.
Mewn amgylchiadau eithriadol*, pan fyddwch wedi cysylltu â’r Amgueddfa o leiaf 4 wythnos cyn dyddiad eich sgwrs, byddwn yn ystyried cynnig dyddiad arall neu ad-daliad llawn i chi.
Ni fyddwn yn cynnig unrhyw drefniadau eraill yn yr amgylchiadau canlynol:
• Archeb wedi’i chanslo o fewn 4 wythnos i ddyddiad y sgwrs (oni bai fod rhestr aros ar gyfer y sgwrs a bod modd i ni ail-werthu eich tocyn ar fyr-rybudd)
• Ni allwch deithio i’r sgwrs oherwydd problemau trafnidiaeth, tywydd gwael neu gwmnïau trafnidiaeth yn canslo gwasanaethau.
Mae rhaglen arddangosfeydd ac ymgysylltu cyhoeddus Amgueddfa Cymru yn bosib diolch i gefnogaeth chwaraewyr y Postcode Lottery
Gwybodaeth
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 15 Hydref 2026 | 10:30 | Gweld Tocynnau |
Ymweld
Oriau Agor
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 4yp.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.
Lleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleParcio
Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd