Cwrs:CREU Cyfres Meistr: Gwnïo Ffedog Groes-gefn
Treuliwch ddiwrnod yn datblygu eich sgiliau gwnïo wrth greu ffedog groes-gefn hardd ac ymarferol i fynd adref gyda chi. Yn berffaith ar gyfer yr ystafell wnïo, yr ardd neu’r gegin, mae’r cwrs undydd hwn yn brosiect gwych i unrhyw un sydd wedi dechrau gwnïo’n ddiweddar neu sy’n dychwelyd at wnïo ac eisiau magu hyder.
Yn ystod y dydd, byddwch yn dysgu technegau defnyddiol gan gynnwys pwytho uchaf, gwnïo poced glyt, gosod wyneb, hemio a gwneud strapiau – sgiliau y gallwch eu defnyddio eto mewn llawer o brosiectau gwnïo yn y dyfodol.
Mae’r cwrs yn addas i ddechreuwyr ac ymlaen, er argymhellir bod gennych wybodaeth sylfaenol am sut i ddefnyddio peiriant gwnïo.
Mae’r holl ddeunyddiau, gan gynnwys y ffabrig, wedi’u cynnwys ym mhris y cwrs. Nodwch: bydd y ffedog a wneir yn ystod y cwrs yn cynnwys un boced glyt.
Mae croeso i chi ddod â’ch peiriant gwnïo eich hun. Os hoffech ddefnyddio peiriant a ddarperir ar gyfer y cwrs, rhowch wybod i ni wrth archebu.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd tocynnau ar gael ar-lein tan ddydd Llun 21 Medi, oni bai bod y gweithdy’n gwerthu allan yn gynt. Ar ôl y dyddiad hwn, ffoniwch 02920 573070 i holi a oes tocynnau ar gael.
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gynnal yn Saesneg.
Gwybodaeth
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 26 Medi 2026 | 09:30 | Gweld Tocynnau |
Ymweld
Oriau Agor
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 4yp.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.
Lleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleParcio
Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd