Digwyddiad:CREU Gwneuthurwyr Ifanc: Sesiwn Flasu – Dysgu Nyddu
Dewch i ddarganfod y grefft draddodiadol o nyddu mewn gweithdy ymarferol arbennig ar gyfer gwneuthurwyr ifanc.
Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Amgueddfa Wlân Cymru yn 50 oed, ac i nodi Diwrnod Byd-eang Nyddu yn Gyhoeddus (WWSIP), bydd cyfle i blant ddarganfod sut mae gwlân yn cael ei droi’n edafedd.
Bydd y plant yn cael rhoi cynnig ar nyddu drostyn nhw eu hunain, dysgu mwy am y broses, arbrofi gyda’r deunyddiau a chreu edafedd i fynd adref gyda nhw ar ddiwedd y sesiwn.
Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol – dewch draw, byddwch yn greadigol a rhowch gynnig arni!
Gwybodaeth archebu
Mae’r gweithdy hwn yn addas i blant 8+ ac yn para tua 1 awr.
Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn. Nid oes angen i oedolion sy’n dod gyda’r plant archebu lle.
Ni ellir ad-dalu tocynnau, ac ni fydd ad-daliad na chyfnewid tocynnau ar gyfer unrhyw un sy’n cyrraedd yn hwyr.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd