Cwrs: CREU Cyfres Meistr: Gwneud Clustog Clytwaith Gwlân gyda Suzi Park

Amgueddfa Wlân Cymru

Bydd gwneuthurwr a’r tiwtor Suzi Park yma am ddiwrnod creadigol yn troi darnau gwlân dros ben yn glustog clytwaith unigryw i fynd adref gyda chi.

Gan ddefnyddio darnau o wlân 100% Melin Tregwynt, byddwch yn torri ac yn trefnu stribedi o ffabrig cyn eu gwnïo gyda’i gilydd ar beiriant gwnïo i greu eich dyluniad clytwaith gwlân eich hun. Yn ystod y dydd, byddwch wedyn yn troi’r ffabrig gorffenedig yn orchudd clustog.

Suzi yw sylfaenydd Make it in Wales ac mae wedi bod yn trefnu ac yn dysgu gweithdai crefft ers 2014.

Mae’r gweithdy hwn yn addas i ddechreuwyr, a bydd arweiniad ar gael drwy gydol y dydd.

Mae’r holl ddeunyddiau wedi’u cynnwys ym mhris y cwrs, gan gynnwys ffabrig gwlân Melin Tregwynt, edau a phad clustog plu, 1 x 8 modfedd/ (tua 20 cm).

Bydd peiriannau gwnïo ar gael i’w defnyddio yn ystod y gweithdy. Mae croeso i chi ddod â’ch peiriant gwnïo eich hun. Os hoffech ddefnyddio peiriant a ddarperir ar gyfer y cwrs, rhowch wybod i ni wrth archebu.       

Bydd tocynnau ar werth tan ddydd Llun 16 Tachwedd 2026, oni bai eu bod yn gwerthu allan yn gynt. Ar ôl y dyddiad hwn, ffoniwch 02902 573070 i wirio a oes unrhyw leoedd ar gael o hyd.

Cynhelir y cwrs yn Saesneg.

Gwybodaeth

21 November 2026, 10.30yb-4yp
Pris £95 I Gostyngiad: £90
Addasrwydd 18+
Archebu lle Rhaid archebu lle
Clustog 1
Clustog 2
Suzi Park 2

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
21 Tachwedd 2026 10:30 Gweld Tocynnau

Ymweld

 Oriau Agor

Dydd Llun Ar gau
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul Ar gau

 Mynediad

Gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl.

Canllaw Mynediad

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 4yp. 
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.

 Lleoliad

 Parcio

Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau