Digwyddiad:Gŵyl Batrymau

Amgueddfa Wlân Cymru

Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu 50 mlynedd o Amgueddfa Wlân Cymru a Mis Gwlân Prydain gyda gŵyl arbennig sy’n archwilio’r patrymau sydd wedi’u plethu drwy dreftadaeth wlân Cymru.

O ddyluniadau nodedig blancedi Cymreig traddodiadol i’r patrymau a’r rhythmau sydd i’w gweld mewn gwehyddu, straeon a cherddoriaeth, dewch i fwynhau diwrnod o arddangosiadau, hanes byw, creadigrwydd a darganfod.

Dewch i weld yr Amgueddfa’n dod yn fyw gyda pheiriannau hanesyddol a gwyddiau ar waith, sgiliau tecstilau traddodiadol ac arddangosiadau. Dewch i gwrdd â gwneuthurwyr gwlân lleol a darganfod mwy am y patrymau, y bobl a’r straeon sydd wrth galon diwydiant gwlân Cymru.

Bydd cyfle i fwynhau adrodd straeon, cerddoriaeth fyw, dawnsio gwerin, cwrdd â chymeriadau o hanes Ffatri Cambrian, gwrando ar sgwrs sy’n archwilio’r Amgueddfa a’i chasgliadau, a chymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol i bob oed.

Fel rhan o’r ŵyl, byddwn hefyd yn dathlu agoriad swyddogol y Sied Wehyddu, gyda chyfle i weld ei gwyddiau hanesyddol ar waith.

Bydd y rhaglen lawn a’r amseroedd yn cael eu hychwanegu’n nes at y digwyddiad. Gwiriwch y wefan am y wybodaeth ddiweddaraf cyn eich ymweliad.

Beth i’w Ddisgwyl

Agoriad swyddogol y Sied Wehyddu

Gwyddiau ar waith a pheiriannau hanesyddol

Adrodd straeon a Dawnswyr Talog

Trin gwrthrychau drwy gydol y dydd

Cerddoriaeth fyw. 

Hanes byw a chymeriadau o Ffatri Cambrian. 

Sgwrs yn archwilio patrymau Cymreig a chasgliad yr Amgueddfa.

Arddangosiadau gwehyddu, nyddu a thecstilau

Gwneuthurwyr a busnesau gwlân lleol 

Gwaith celf cymunedol ar y cyd

Gweithgareddau creadigol a man lliwio tawel

Car Triumph Mayflower vintage yn cael ei harddangos

Gwybodaeth

17 Hydref 2026, 10.30yb-3.30yp
Pris Am ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Galw heibio (Gweler yr amserlen)
Clytwaith 1

Ymweld

 Oriau Agor

Dydd Llun Ar gau
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul Ar gau

 Mynediad

Gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl.

Canllaw Mynediad

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 4yp. 
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.

 Lleoliad

 Parcio

Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau