Digwyddiad:CREU Tymhorol – Gwneud Addurn Siâp Pwdin Nadolig wedi’i Ffeltio

Amgueddfa Wlân Cymru

Dewch i fod yn greadigol y Nadolig hwn a gwneud addurn siâp pwdin Nadolig wedi’i ffeltio eich hun i fynd adref gyda chi.

Yn ystod y gweithdy hamddenol hwn, cewch eich tywys drwy’r broses o greu addurn Nadoligaidd gan ddefnyddio gwlân a thechnegau ffeltio. Mae’n gyfle hyfryd i fwynhau ychydig o grefftau tymhorol, dysgu sgil newydd a chreu addurn unigryw wedi’i wneud â llaw ar gyfer eich coeden Nadolig.

Darperir yr holl ddeunyddiau.

Gwybodaeth

12 Rhagfyr , 10.30yb-1yp
Pris £15yp
Addasrwydd 16+
Archebu lle Rhaid archebu lle
Nadolig 2
Nadolig gwlan

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
12 Rhagfyr 2026 10:30 Gweld Tocynnau

Ymweld

 Oriau Agor

Dydd Llun Ar gau
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul Ar gau

 Mynediad

Gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl.

Canllaw Mynediad

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 4yp. 
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.

 Lleoliad

 Parcio

Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau