Digwyddiad:Hwyl yr Ŵyl gyda Siân Corn (Mrs Claus)
Ymunwch â Siân Corn am sesiwn Nadoligaidd hwyliog!
Mwynhewch straeon y Nadolig, cymerwch ran mewn gweithgaredd crefft hwyliog a mwynhewch awyrgylch yr ŵyl. Bydd pob plentyn yn derbyn anrheg fach a danteithion melys i fynd adref.
Mae eich tocyn yn cynnwys:
- Straeon Nadoligaidd,
- Gweithgaredd crefft y Nadolig,
- Anrheg bach i bob plentyn,
- Danteithion melys
Os oes gennych alergedd penodol, rhowch wybod i aelod o staff wrth gyrraedd.
10.30yb: Sesiwn Cymraeg
12yp : Sesiwn Saesneg
1.30yp: Sesiwn Dwyieithog
Mae’r sesiwn yn para tua 45 munud, ond os gwelwch yn dda ystyriwch ganiatáu tua awr.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, felly argymhellir archebu’n gynnar. Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn. Oherwydd cyfyngiadau lle, caniateir un oedolyn fesul archeb.
Nid oes modd ad-dalu tocynnau, ac ni fydd ad-daliadau na chyfnewidiadau yn cael eu cynnig i’r rhai sy’n cyrraedd yn hwyr.
Gwybodaeth
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 5 Rhagfyr 2026 | 10:30 | Gweld Tocynnau |
| 5 Rhagfyr 2026 | 12:00 | Gweld Tocynnau |
| 5 Rhagfyr 2026 | 13:30 | Gweld Tocynnau |
Ymweld
Oriau Agor
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 4yp.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.
Lleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleParcio
Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd