Cwrs:Cyflwyniad i Waith Gof - Amgueddfa Lechi Cymru
Mae’r cyrsiau llawn diwrnod yma yn rhoi’r cyfle i chi droi eich llaw at grefft hynafol y gof yn efail wreiddiol y Gilfach Ddu, lle bu cenedlaethau o ofaint yn gwasanaethu Chwarel Dinorwig.
Mewn grŵp bychan dan ofal gof yr Amgueddfa, Liam Evans, cewch gyflwyniad at dechnegau gofannu (forging), ffurfio a thorri dur eirias er mwyn creu eich procer metel prydferth eich hun i fynd gartref. *
Mae’r cwrs llawn hwyl hwn yn addas i ddechreuwyr. Bydd dau le i’w archebu ym mhob sesiwn.
*Os oes amser byddwch hefyd yn creu eitem bychan arall o restr awgrymiedig.
Gwybodaeth Diogelwch
I gymryd rhan yn y cwrs hwn, mae'n ofynnol i'r cyfranogwyr wisgo dillad digonol (gweler y rhestr isod) a gwrando ar gyfarwyddiadau'r gof a'u dilyn o ran gweithio'n ddiogel yn yr Efail.
- Rhaid i unrhyw ddillad fod wedi eu gwneud o ffibr naturiol, cotwm 100% os yn bosib.
- Rhaid gwisgo llewys hir.
- Rhaid gwisgo trowsus hir sy'n cyrraedd top yr esgid.
- Rhaid gwisgo esgidiau diogelwch. Rhaid dod â'ch esgidiau eich hun.
- Rhaid gwisgo'r sbectolau diogelwch gaiff eu darparu yn yr efail drwy'r amser. Darperir ffedog ledr a menig.
Bydd methu â chydymffurfio â chyfarwyddiadau diogelwch y gof yn arwain at ganslo'r sesiwn.
Gwybodaeth Bwysig Ychwanegol
Mae croeso i chi ddod â pecyn cinio neu ymweld â'n caffi ar y safle.Gallwn gynnig gostyngiad o 10% i gyfranogwyr y cwrs yn ein caffi wrth gynhyrchu tocyn.
Iaith:
Mae'r hwylusydd ar gyfer y cwrs hwn yn ddwyieithog (Cymraeg / Saesneg).
Canllaw Oedran:
Mae'r cwrs yma yn addas ar gyfer 18+ oed
Cymhwyster consesiwn
Myfyrwyr ag NUS, rheini sy'n derbyn budd-daliadau, neu pobl dros 60 oed
Hygyrchedd:
Mae'r Efail yn daith gerdded 5 munud o'r maes parcio - cysylltwch â events@museumwales.ac.uk cyn archebu i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.
Gall darllen y telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau yma.
Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.
Cymerwch olwg ar gyrsiau eraill gan Amgueddfa Cymru yma: Cyrsiau Creadigol yn Amgueddfa Cymru | Museum Wales
Gwybodaeth
Cynnws cysylltiedig
Darlunio Botanegol - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Ymweld
Oriau Agor
18 Mawrth - 3 Tachwedd 2024
Ar agor yn ddyddiol 10am - 5pm
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae ein siop goffi bellach yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa.
Parcio
Mae digonedd o le parcio i geir a bysiau. Codir tâl am barcio.
Cyngor Gwynedd sy'n berchen ar faes parcio Maes Parcio Gwledig Padarn ac yn ei weithredu. Mae'r parcio'n costio £4.50. Mae’n bosib talu a cherdyn (www.paybyphone.co.uk/ neu defnyddiwch yr app ffôn / Lleoliad 804552) Os mai dim ond gydag arian parod y gallwch dalu, byddwch yn ymwybodol na allwn gyflenwi newid ar hyn o bryd.
Lleoliad
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd