Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Wedi’i lleoli yn nociau hanesyddol Abertawe, mae gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau orielau modern ac eang a mannau gwaith hygyrch mewn lleoliad cyfleus, dafliad carreg o ganol y ddinas.
Mae’r lleoliad unigryw hwn ar gael i gynnal cynadleddau, ciniawau gala, priodasau a llawer mwy, ac mae’n adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, nawr a thros y 300 mlynedd diwethaf, ac mae'n barod i'ch croesawu chi a'ch digwyddiad.
Mae ein tîm llogi profiadol ac ymroddedig yma i weithio gyda chi a sicrhau'r ateb perffaith i chi a'ch gwesteion.
Dewch i weld beth sydd gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe i'w gynnig isod a chysylltwch â ni i ddechrau cynllunio eich digwyddiad. Edrychwn ymlaen at estyn croeso cynnes i chi i'r amgueddfa.
Fel elusen gofrestredig, bydd pob digwyddiad a gynhelir gennych gyda ni yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru’n perthyn i bawb a'i bod yma i bawb ei defnyddio, gan gynnwys ein holl waith arddangos, cymunedol ac addysgol.