Gardd GRAFT

Mae torf fawr yn eistedd wrth fyrddau hir y tu allan, yn bwyta ac yn cymdeithasu ger cynwysyddion oren a gwyrddni.

Mae gardd GRAFT wedi’i lleoli yn iard ganolog Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac mae’n hafan hyfryd yng nghanol Abertawe.

Mae’n amgylchedd tyfu organig a chynaliadwy, gan greu tirwedd bwytadwy sy’n annog pobl i gyfrannu a thrafod, gan gynhyrchu llysiau, ffrwythau a pherlysiau.

Mae’r ardd yn ddelfrydol ar gyfer digwyddiadau llogi preifat yn ystod misoedd yr haf, gan gynnwys digwyddiadau rhwydweithio neu dderbyniadau ac mae’n paru’n berffaith â llogi Neuadd Weston a’r Golofnfa.

Siaradwch â’n tîm am yr opsiynau arlwyo a phecynnau diodydd sy’n fwyaf addas ar gyfer digwyddiad awyr agored.

Mae prisiau llogi’n dechrau o £ 1,200 + TAW yn dibynnu ar y gofynion. Mae pecynnau arlwyo’n cael eu gwerthu ar wahân. Cysylltwch â’n tîm ymroddedig i gael dyfynbris.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, llogi neu gynllunio ymweliad ar safle.

Cysylltwch â ni

  • Rydym yn edrych dros ysgwydd unigolyn sydd yn gwisgo crys-t glas, mae'n yn dal pen lliwio ffelt yn eu llaw chwith ac yn dylunio blodyn oren ar ddarn pren sydd yn ffin gardd
  • Mae bwgan brain yn sefyll yn nghanol gwyrddni gardd, mae'n gwisgo crys t glas, het fflat a sbectol haul
  • Mae dyn yn sefyll tra'n dal ymlaen i ffens yn rhoi dwr i blanhigion yr ardd, mae'n gwisgo crys t glas a het
  • Mae grwp o bobl wedi ymgynyll mewn cegin, mae un dyn mewn coch yn yfed o gwpan arian, mae dynes yn gwenu'n llydan wrth aelod arall o'r grwp tra bod dyn mewn glas i'w weld yn gwneud paned wrth y tegell
  • Mae dyn sydd yn gwisgo crys t coch yn gwenu'n llydan wrth roi dwr i'r ardd, tu ol iddo mae tri dyn arall yn edrych ar yr ardd, mae'r awyr yn las ar haul yn gwenu