Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Sain Ffagan Hanes Amgueddfa Genedlaethol yw atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru ers blynyddoedd lawer ac mae ganddi le arbennig iawn yng nghalonnau’r genedl. Mae wedi'i lleoli prin bedair milltir i'r gorllewin o ganol dinas Caerdydd, ychydig oddi ar yr A4232.
O lefydd cynadledda modern a hyblyg i adeiladau cyfnod unigryw ar gyfer dathliadau a seremonïau, mae Sain Ffagan yn eich croesawu i Gymru drwy’r oesoedd ar gyfer digwyddiadau gyda chefndir gwirioneddol hanesyddol.
Mae ein tîm llogi lleoliad profiadol ac ymroddedig yma i weithio gyda chi a sicrhau'r ateb perffaith i chi a'ch gwesteion.
Edrychwch ar yr hyn sydd gan fannau unigryw Sain Ffagan i'w gynnig isod a chysylltwch â ni i ddechrau cynllunio eich digwyddiad. Edrychwn ymlaen at estyn croeso cynnes i chi i'r amgueddfa.
Fel elusen gofrestredig, bydd pob digwyddiad a gynhelir gennych gyda ni yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru’n perthyn i bawb a'i bod yma i bawb ei defnyddio, gan gynnwys ein holl waith arddangos, cymunedol ac addysgol.