Ymweld Am Ddim
Mynediad
Mynediad am dddim.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa.
Mae mynediad am ddim, ond mae’n bosibl y codir tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau.
Oriau Agor
Cysylltwch â ni
Ffôn: 0300 111 2 333
E-bost: sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk
Mynediad
Canllaw MynediadGwybodaeth Diogelwch ar gyfer Ymwelwyr
Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:
- Pyllau dŵr a llynnoedd
- Perygl o faglu ar lwybrau a stepiau anwastad
- Arwynebedd llithrig llwybrau, llethrau a mannau glaswelltog
Parcio
Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis ar gael am £45. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Ydw i’n gallu dod a’r ci?
Mae croeso i chi grwydro safle’r amgueddfa gyda’ch ci ar dennyn byr (sydd ddim yn ymestyn). Bydd gofyn i chi gyfnewid eich tennyn estynadwy am dennyn byr yn ein derbynfa.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa.
Map o Sain Fagan
> Lawrlwythwch map o’r safleGrwpiau
Cyngor i gwmniau bysiauArchebwch ymlaen llaw i gael:
- Gostyngiad o 10% yn y siop (o wario o leiaf £5 y pen)
- Lluniaeth am ddim i yrwyr Bysiau (wrth ddangos prawf ID).
Nodir
Ni chaniateir chwarae â phêl, beic, sgwteri ayyb ar y safle
Gallwch fynd â phram neu gadair wthio i mewn i Institiwt Oakdale, Eglwys Teilo Sant a Siop Gwalia ond nid oes modd mynd â nhw i mewn i’r rhan fwyaf o’n adeiladau hanesyddol.
Does dim hawl hedfan drôn heb awdurdod ar y safle
Dim ysmygu neu fepio unrhyw le ar y safle
Ffotograffiaeth
Mae croeso i ymwelwyr dynnu lluniau at eu defnydd personol.
Rhaid cael caniatâd i dynnu lluniau at ddibenion masnachol, lluniau priodas neu luniau teuluol, a byddwn yn codi tâl arnoch am hyn.
Cysylltwch â'n tîm Llogi Cyfleusterau neu swyddfa'r wasg i drafod eich cais.
Tocyn Tymor Blynyddol
Gall ymwelwyr rheolaidd â Sain Ffagan arbed ar gostau parcio gyda Thocyn Tymor Blynyddol am £45. Gyda Thocyn Tymor, fydd dim angen i chi brynu tocyn wrth y peiriant am flwyddyn gyfan.
Cefnogwch Ni
Mae Amgueddfa Cymru yn elusen. Bob tro y byddwch chi'n prynu rhywbeth gennym, neu yn cyfrannu rhodd boed fawr neu fach, byddwch yn ein helpu i sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rhowch os gallwch chi.
Darganfod atyniadau eraill yn yr ardal:
Dewch i ddarganfod stori Cymru