Tasg Tri - Addysg

Yn ddi-os, bydd y Frenhines Fictoria yn awyddus i wybod a yw unrhyw rai o blant y wlad yn derbyn addysg, ac os ydynt, pa fath o brofiadau maent yn eu cael. Bydd y ddau fideo yng Ngweithgaredd Un yn eich helpu i ddeall sut fath o le oedd yr ysgol ym Mlaenafon yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cofiwch glicio ar y dolenni gwefannau, rhestr lyfrau neu gronfa adnoddau i ddysgu mwy am fywyd yn yr ysgol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.