Y Canlyniad Terfynol - Yr Adroddiad i'r Frenhines Fictoria

Mae’r amser wedi cyrraedd i chi gasglu’ch gwybodaeth a’ch syniadau ynghyd a llunio’ch adroddiad i’r Frenhines.

Cewch chi ddewis ffurf yr adroddiad. Gallech baratoi adroddiad ysgrifenedig ffurfiol, neu efallai y byddwch am ddefnyddio’ch dychymyg a chreu cerdd, arddangosfa ddosbarth, drama neu hyd yn oed gyflwyniad PowerPoint (efallai nad oedd cyfrifiaduron yn ystod oes Fictoria, ond fe wnaethom ddweud y gallech ddefnyddio’ch dychymyg!)

Pa ddull bynnag a ddewiswch, dylech geisio cynnwys tystiolaeth o’ch gwaith ymchwil i gefnogi’ch datganiadau. Mae’n bur debyg na fydd y Frenhines na llawer o’i Haelodau Seneddol wedi bod yn agos at unrhyw bwll glo neu waith haearn, ac ni fyddant am gredu bod yr amodau mor ddrwg â hyn. Bydd rhaid i chi ddefnyddio’ch tystiolaeth i’w hargyhoeddi.

Os hoffech wybod beth a ddigwyddodd o ganlyniad i adroddiad gwirioneddol Comisiwn Brenhinol 1842 cliciwch yma!

Gwnewch eich gwaith yn dda gan y gallai bywydau plant ddibynnu arnoch chi!