Gweithgaredd Tri - Babanod, Cornwydydd a Chladdedigaethau
Rhowch gynnig ar y gweithgaredd Babanod, Cornwydydd a Chladdedigaethau, sy'n pwyso a mesur y dystiolaeth ar gyfer iechyd gwael, clefydau a chyfraddau marwolaeth ym Mlaenafon yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Edrychwch ar y cofnodion claddedigaethau ar gyfer Llanofer ym Mlaenafon yn y flwyddyn 1841. Nodwch nifer y marwolaethau ar gyfer pob grŵp oedran yn y siart cyfrif. Dylech wneud yn siŵr eich bod yn cofnodi'r holl ddata yn ofalus.
Ar ôl i chi gofnodi'r data, cliciwch ar dab y daflen waith Cwestiynau ac atebwch y cwestiynau.
Pa ddatganiad yn y Grid Gwerthuso sy'n eich disgrifio orau?
Arolygydd Dan Hyfforddiant | Arolygydd Cynorthwyol | Uwch Arolygydd |
---|---|---|
Gallaf ganfod oedran marwolaeth mwyafrif o bobl Blaenafon ym 1842. |
Gallaf ddefnyddio taenlen i ddadansoddi graff ac ateb cwestiynau am iechyd ym Mlaenafon ym 1842. |
Gallaf nodi'r rhesymau am gyfraddau marwolaeth uchel ymysg plant ym 1842 a'u hesbonio. |