Gweithgaredd Tri - Babanod, Cornwydydd a Chladdedigaethau

Rhowch gynnig ar y gweithgaredd Babanod, Cornwydydd a Chladdedigaethau, sy'n pwyso a mesur y dystiolaeth ar gyfer iechyd gwael, clefydau a chyfraddau marwolaeth ym Mlaenafon yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Edrychwch ar y cofnodion claddedigaethau ar gyfer Llanofer ym Mlaenafon yn y flwyddyn 1841. Nodwch nifer y marwolaethau ar gyfer pob grŵp oedran yn y siart cyfrif. Dylech wneud yn siŵr eich bod yn cofnodi'r holl ddata yn ofalus.

Ar ôl i chi gofnodi'r data, cliciwch ar dab y daflen waith Cwestiynau ac atebwch y cwestiynau.

Pa ddatganiad yn y Grid Gwerthuso sy'n eich disgrifio orau?

Arolygydd Dan Hyfforddiant Arolygydd Cynorthwyol Uwch Arolygydd

Gallaf ganfod oedran marwolaeth mwyafrif o bobl Blaenafon ym 1842.

Gallaf ddefnyddio taenlen i ddadansoddi graff ac ateb cwestiynau am iechyd ym Mlaenafon ym 1842.

Gallaf nodi'r rhesymau am gyfraddau marwolaeth uchel ymysg plant ym 1842 a'u hesbonio.