Gweithgaredd Tri - Ysgrifennu Dychmygus

Dychmygwch eich bod wedi cael eich geni yn ardal Blaenafon tua 1785, cyn i'r diwydiannau a'r dref gael eu hadeiladu. Fe wnaethoch symud i fyw i Loegr pan oeddech tua 10 oed, ac nid ydych wedi dychwelyd i Gymru ers hynny.

Rydym bellach yn y flwyddyn 1842 ac rydych yn hen ddyn neu fenyw sydd wedi dychwelyd i ardal eich geni i dreulio eich blynyddoedd olaf.

Ysgrifennwch lythyr at ffrind neu berthynas gan egluro sut mae'r lle wedi newid a sut rydych yn teimlo am y newidiadau hyn.


Pa ddatganiad yn y Grid Gwerthuso sy'n eich disgrifio orau?

Arolygydd Dan Hyfforddiant Arolygydd Cynorthwyol Uwch Arolygydd

Drwy ddefnyddio'r rhestr o ddyddiadau, gallaf gwblhau'r ymarferiad 'llusgo a gollwng' sy'n dangos sut y tyfodd Blaenafon.

Drwy gwblhau'r ymarferiad 'llusgo a gollwng' ac astudio ffigurau poblogaeth, deallaf fod Blaenafon wedi tyfu'n sylweddol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gallaf awgrymu rhai rhesymau am hyn.

Gallaf ddychmygu fy mod yn dychwelyd i Flaenafon ym 1842 a gallaf wneud sylwadau am dwf y dref a sut a pham mae hi wedi newid.