Tasg Pedwar - Twf y Gymuned

Llun o'r gwaith haearn a'r dref yn Nant y Glo, Sir Fynwy, tua 1840.

Mae'r wybodaeth olaf sydd ei hangen arnoch i ysgrifennu'ch adroddiad yn ymwneud â thwf tref Blaenafon yn sgil adeiladu'r Gwaith Haearn a'r holl byllau glo lleol gerllaw. Pa fath o le oedd e? Pa fath o gyfleusterau oedd yno? Pa mor fawr oedd e? Pa mor gyflym wnaeth e dyfu?

Edrychwch ar y

rhestr o ddyddiadau allweddol ar gyfer Blaenafon i weld pryd yn union y digwyddodd rhai o'r pethau pwysicaf.

Erbyn hyn, dylech fod wedi dysgu cryn dipyn am fywyd pobl Blaenafon.

Casglwch ragor o dystiolaeth o'r gweithgareddau a defnyddiwch eich dychymyg a'ch gwybodaeth gefndir i geisio deall sut fath o le oedd Blaenafon erbyn 1842.

Cofiwch glicio ar y dolenni gwefannau, rhestr lyfrau neu gronfa adnoddau i ddysgu mwy am fywyd yn yr ysgol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.