Disgrifiad Swydd Enghreifftiol
Ar gyfer Tasg 1 Gweithgaredd 2
Teitl y swydd: Cludwr
Gofynion oedran: 14 - 17 oed.
Natur y swydd: Llywio tramiau glo a dynnir gan geffyl rhwng y talcen glo a'r fynedfa i'r pwll. Gofalu am y ceffyl yn ystod y shifft a mynd ag ef adref dros nos.
Peryglon y swydd: Gallwch gael eich anafu'n hawdd wrth neidio ar neu oddi ar y tramiau sy'n symud, neu gael eich gwasgu rhwng y tram a wal y pwll.
Gofynion corfforol: Rhaid bod yn heini, yn ystwyth ac yn gryf. Mae'n rhaid i chi fwynhau gwaith caled a bod yn barod i anwybyddu anafiadau mynych. Mae cael breichiau a choesau ac esgyrn cryf yn hanfodol. Mae'n rhaid i chi allu meddwl yn gyflym a gweld yn dda iawn yn y tywyllwch. Fodd bynnag, rhaid i chi fod yn eithaf byr gan fod y ffyrdd yn y pwll hwn yn gul ac yn isel.
Cyflog: I'w gytuno (ond nid llawer!)
Oriau gwaith: Yn amrywio
Cyngor defnyddiol: Byddwch wedi gweithio mewn pwll o'r blaen, yn gwybod sut mae tramiau'n gweithio ac yn gyfarwydd â'r pwll. Gorau oll os ydych chi'n hoff iawn o geffylau.