Gweithgaredd Dau - Gwasanaethu'r Ymerodraeth

Gwyliwch y fideo ‘Gwasanaethu’r Ymerodraeth’ (Servants of the Empire) yn ofalus. Mae’r fideo yn dangos plant yn adrodd eu profiadau o weithio yn y pyllau glo a’r gwaith haearn ym 1842.

Wedyn, defnyddiwch y dystiolaeth yn y fideo i’ch helpu i ysgrifennu Disgrifiadau Swydd ar gyfer gweithwyr gwahanol ym 1842.

Edrych ar y bwrdd Gwerthuso isod i benderfynu’r safon rydych chi am ei chyrraedd, a gwelir y

Sampl o Ddisgrifiadau

Swydd i gael cyngor ar sut i ysgrifennu’ch disgrifiadau swydd.


Arolygydd Dan Hyfforddiant Arolygydd Cynorthwyol Uwch Arolygydd

Gallaf ysgrifennu o leiaf un Disgrifiad Swydd syml ar gyfer gweithwyr ym Mlaenafon ym 1842.

Gallaf ysgrifennu tri Disgrifiad Swydd sylfaenol ar gyfer gweithwyr ym Mlaenafon ym 1842.

Gallaf ysgrifennu tri Disgrifiad Swydd manwl ar gyfer gweithwyr ym Mlaenafon ym 1842.