Tasg Un - Gwaith

Er mwyn dechrau’ch ymchwiliad, bydd angen i chi wybod sut brofiad oedd gweithio ym Mlaenafon ym 1842. Pwy oedd yn mynd allan i weithio? Pa fath o waith oedd pobl yn ei wneud? Faint o gyflog oedden nhw’n ei ennill? A oedd y gwaith yn beryglus?

Cwblhewch y gweithgareddau isod a meddyliwch yn ofalus am y wybodaeth rydych chi’n ei chasglu. Gydag ychydig o ymdrech, byddwch chi’n dod o hyd i’r atebion i’r cwestiynau hyn a’r atebion i lawer o gwestiynau eraill hefyd.

Cofiwch ddefnyddio’r Grid Gwerthuso ar gyfer y gweithgareddau. Pa un o’r datganiadau sy’n disgrifio’r hyn rydych chi’n meddwl y gallwch ei wneud? Pa un sy’n disgrifio pa mor dda wnaethoch chi mewn gwirionedd?

Os ydych am fod yn Arolygydd heb ei ail, cofiwch fod yna

rhestr lyfrau ac adnoddau i’ch helpu i ddysgu mwy am y bedwaredd ganrif ar bymtheg ym Mlaenafon ac mewn llefydd eraill.