Addysg Gymunedol
Mae sawl ffordd o ddysgu fel grŵp yn Sain Ffagan. Crwydro'r amgueddfa awyr-agored, dysgu sgil newydd, neu archwilio straeon y gwrthrychau gwych yn yr orielau – mae rhywbeth i bawb yma!
Edrychwch ar y dewisiadau isod a chysylltwch â'r tîm archebu i drefnu eich ymweliad Addysg Gymunedol:
Sylwer: codir tâl am rai gweithgareddau yn dibynnu ar y grŵp. Nid ydym yn darparu cinio a lluniaeth. Mae pob gweithdy a thaith yn ddibynnol ar faint o le sydd ar gael. Rhaid archebu o leiaf 2 wythnos ymlaen llaw.
Dewis 1 |
Dewis 2 |
Dewis 3 |
---|---|---|
Gweithdy/taith unigol |
Hanner diwrnod |
Diwrnod llawn (10.30am i 3pm) |
Gweithdy crefft 1 awr NEU Taith 30 munud o gwmpas safle/oriel |
Gweithdy crefft 1 awr
Egwyl Taith 30 munud o gwmpas safle/oriel |
1 awr o amser rhydd/gweithgareddau hunan-dywys Taith 30 munud o gwmpas safle/oriel 1 awr i ginio Prynhawn crefftau (gweithdy hyd at 2 awr) |
Mae pob grŵp sydd wedi archebu ymlaen llaw yn cael y canlynol:
- Mynediad am ddim
- Gostyngiad o 10% yng nghaffi a bwyty'r Amgueddfa (rhaid gwario o leiaf £5 y pen)
- Gostyngiad o 10% yn siop yr Amgueddfa (rhaid gwario o leiaf £5 y pen)
Gallai gweithdai a sesiynau crefft gynnwys (heb fod yn gyfyngedig i):
- Tecstilau
- Metelwaith
- Lledrwaith
- Gweithdai celf
Ymweliadau oriel:
- Oriel Byw a bod
- Oriel Cymru...
- Oriel Gweithdy
Teithiau/arddangosiadau:
- Teithiau tywys hanesyddol e.e. Taith y Tuduriaid
- Y Castell a'r Gerddi
- Arddangosiad/sgwrs gyda chrefftwr (Gof, Clocsiwr, Melinydd, Gwehydd)
- Teithiau tymhorol e.e. teithiau natur/crwydro'r cloddiau, wyna, trochi rhwydi
Adnoddau hunan-dywys:
- Taith Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
- Adnoddau ESOL
- Adnoddau dysgwyr Llwybrau Llafar
- Taith Ymwybyddiaeth Ofalgar Sain Ffagan
- Dewch â'ch gweithgaredd eich hun e.e. helfa drysor, geo caching, cwis.
Ewch i'n tudalennau ymgysylltu cymunedol am fwy o wybodaeth ar ein cynigion i grwpiau cymunedol ac elusennau.