Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Dros y misoedd nesaf, bydd yr Amgueddfa yn fwrlwm o weithgareddau wrth i ni gyflawni projectau i wella profiad ymwelwyr. Bydd ymweld yn ystod y cyfnod hwn yn wahanol a bydd rhai mannau ar gau gan gynnwys y lle chwarae a Gweithdy. Dysgwch am hyn a datblygiadau cyffrous eraill yn ein blog.
Mae Sain Ffagan yn annwyl i bobl Cymru – dyma atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd y wlad. Amgueddfa’r bobl yw hi, yn adrodd hanes Cymru trwy fywydau bob dydd ei thrigolion.
Mynediad am ddim i'r Amgueddfa, diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Agorwyd Sain Ffagan i'r cyhoedd am y tro cyntaf oll ar 1 Gorffennaf 1948. Saif ynghanol gerddi godidog Castell Sain Ffagan, y plasty hardd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a gyflwynwyd fel rhodd i'r genedl gan Iarll Plymouth.
Yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf ailgodwyd dros 40 o adeiladau gwreiddiol o wahanol gyfnodau hanesyddol ar y parcdir 100 erw. Ymysg yr adeiladau mai tai, ffermdy, ysgol, capel a Sefydliad Gweithwyr ysblennydd.
Yn Sain Ffagan cewch weld hanes Cymru, ei rannu ag eraill, a helpu i’w greu hyd yn oed. Gallwch wneud hyn yn ein horielau trwy chwarae, rhannu ar-lein, a chreu â llaw. Mae’r orielau wedi eu creu gyda chymorth hael nifer fawr o unigolion, sefydliadau a chymunedau ar hyd a lled Cymru.
Crefftau a gweithgareddau traddodiadol sy'n bywiocu Sain Ffagan. Yn rhai o'r adeiladau mae crefftwyr wrth eu gwaith yn arfer eu crefftau traddodiadol. Yn aml mae modd prynu eu cynnyrch. Darllenwch fwy o straeon am ein casgliadau ar ein gwefan Rhagor. Gellir gweld bridiau cynhenid o anifeiliaid a ffowls yng nghaeau a buarthau'r ffermydd, lle ceir hefyd arddangosiadau dyddiol o dasgau ffermio. Gall ymwelwyr gael cipolwg ar dreftadaeth a diwylliant cyfoethog Cymru, a gellir clywed Cymraeg yn cael ei siarad yn ddyddiol ymhlith y crefftwyr a'r dehonglwyr.
Gydol y flwyddyn, daw Sain Ffagan yn fyw yn llythrennol wrth i ni ddathlu gwyliau traddodiadol a digwyddiadau cerddoriaeth a dawns. Mae Sain Ffagan yn archwilio pob agwedd o'r ffordd yr oedd pobl Cymru'n byw, gweithio ac yn hamddena. Fel cenedlaethau o ymwelwyr o'ch blaen, byddwch yn cael eich ysbrydoli gan ein dathliad o draddodiadau a ffyrdd o fyw Cymreig.
Dewch am dro trwy’n coedwig ffawydd a dysgwch ragor am fyd natur.
Mae'r Amgueddfa yn y deg uchaf o restr atyniadau rhad ac am ddim y DU yn pleidlais defnyddwyr TripAdvisor, gwefan adolygu teithiau mwyaf y byd.