Cwrs:Addurno decal ar Gerameg

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Cwrs hanner diwrnod i ddysgu crefft addurno decal ar gerameg. Byddwch chi'n gweithio dan ofal yr artist gwobrwyog Lowri Davies i ddysgu'r techegau i addurno plât a mwg eich hun.

Mae'r gweithdy'n addas i ddechreuwyr, neu bobl sydd ag ychydig o brofiad, ac mae'r pris yn cynnwys yr holl ddeunyddiau ac offer angenrheidiol.

 

Sylwer: bydd angen i chi ddychwelyd i Sain Ffagan ar ddiwrnod arall i nôl eich creadigaethau.

 

Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs  *(heblaw am Bopty Derwen) 

Mae pris y cwrs yn cynnwys parcio. Bydd y tîm tocynnau yn cysylltu â chi gyda manylion drwy'r e-bost a ddarparwyd wrth archebu.  

Cod post llywio â lloeren – CF5 6XB 

Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw. 

Iaith: Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg 

Gostyngiad: Myfyrwyr gyda cherdyn NUS, pobl sy’n derbyn budd-daliadau. Pobl dros 60 oed a dan 18* (rhaid i blant 16–18 fod yng nghwmni oedolyn sy’n cymryd rhan). 

Hygyrchedd: Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd. 

Telerau ac amodau: Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.

 

TOCYNNAU

 

Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon. 

 

Cymerwch olwg ar rai o gyrsiau crefft eraill gan Amgueddfa Cymru yma: Cyrsiau Creadigol yn Amgueddfa Cymru | Museum Wales

 

Gwybodaeth

11 Mawrth 2023, 10:30 a 1.30pm
Pris £50 | £40 Gostyngiad
Addasrwydd 16+*
Te
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau