Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ymunwch â Vic Phillips o SingleMaltTeapot i ddysgu am yr offer a’r technegau sy’n hanfodol wrth gerfio llwy. Ar ddiwedd y gweithdy bydd y sgiliau gennych i ddefnyddio cyllyll ar gyfer amrywiaeth o brojectau cerfio, a byddwch wedi creu llwy o bren leim.
Yn ystod y gweithdy byddwn yn trafod:
Defnyddio offer torri pren yn ddiogel.
Sut i gerfio pren gyda chyllyll.
Rhoi gorffeniad hardd i’ch llwy.
Chwilio am ddeunyddiau newydd a’r gwahaniaeth rhwng gwahanol fathau o bren.
Yr offer sydd eu hangen i gerfio a sut i ofalu amdanynt.
Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs *(heblaw am Bopty Derwen)
Parcio
Gallwch barcio yn y maes parcio i ymwelwyr, codir tâl o £7 a gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn
Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg
Mae'n rhaid i bob gyfranogwr o'r cwrs fod yn 16+ oed. Rhaid i unrhyw gyfranogwyr o dan 18 oed fod yng nghwmni rhywun 18+ oed sy'n cymryd rhan.
Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.
Cliciwch isod i gofrestru ar gyfer y rhestr bostio a’r rhestr aros ar gyfer ein cyrsiau fel eich bod yn cael eich hysbysu pan gyhoeddir cyrsiau newydd neu pan ddaw llefydd yn rhydd ar gyrsiau llawn.
Ymunwch â ni | Amgueddfa Cymru
Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.
Cymerwch olwg ar rhai o gyrsiau eraill gan Amgueddfa Cymru yma: Cyrsiau Creadigol yn Amgueddfa Cymru | Museum Wales
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd