Digwyddiad:Llwybr Gaeaf Mawr yr Amgueddfa

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Galwch draw ym mis Rhagfyr i fwynhau llwybr llawn hwyl i'r teulu cyfan 

Chwiliwch am y corachod bach i'ch helpu i greu ffrind eira i addurno brig y goeden Nadolig adref. 

 ...Nodwch bydd Sain Ffagan ar gau o 2yp ymlaen at Rhagfyr 23 felly awgrymwn i chi gyrradd erbyn 12yh ar yr hwyraf i gwblhau’r weithgaredd. 

Beth ydw i'n ei gael?   

  • Llwybr lliw A3 gyda gweithgaredd crefft  
  • Pecyn o greonau                    
  • Gwobr bach Nadoligaidd 

Ble ydw i'n cael y llwybr?   

Bydd llwybrau ar gael wrth dderbynfa’r Amgueddfa wrth gyrraedd, neu mae croeso i chi archebu eich llwybr yma ymlaen llaw - Llwybr Gaeaf Mawr yr Amgueddfa

Gwybodaeth Ychwanegol   

Iaith - Mae'r llwybrau'n ddwyieithog.   

Oedran - Yn addas ar gyfer plant 4+ oed , efallai y bydd angen help ar blant iau 

Cost - Mae'r gost yn cynnwys un llwybr gydag un wobr.  Mae croeso i chi gwblhau un fel teulu neu brynu un ar gyfer pob person.     

Mae'r llwybr ar gael ym mhob un o safleoedd yr Amgueddfa Cymru ac mae'r un peth ar bob safle
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.   

Lle bo'n bosibl, rydym wedi defnyddio deunyddiau ecogyfeillgar a byddwn yn defnyddio'r rhain eto 

Nifer o lefydd gyfyngedig. 

Gwybodaeth

3 Rhagfyr 2022 – 8 Ionawr 2023, Bob dydd, 10yb - 3yp (Bydd yr amgueddfa yn cau am 2yp) ar ddydd Gwener 23 Rhagfyr
Pris £1.50 y daflen
Addasrwydd Teuluoedd
Archebu lle Ar gael o ddesg y dderbynfa wrth gyrraedd, neu gellir archebu ymlaen llaw
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau