Digwyddiad:Diwali Mela

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Mae Amgueddfa Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Ddiwylliannol Hindŵaidd Cymru India i gynnal Diwali Mela yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.  

  

Yn ogystal â stondinau bwyd, cerddoriaeth, a pherfformiadau dawns, bydd cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai Dawns Dandiya, ioga Indiaidd, celf corff Mehndi a storïa Clasurol o India. 

 

Bydd gweithgareddau celf a chrefft am ddim ar gael i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Bydd y lleoliad wedi'i addurno ag arteffactau, tecstilau a chelf Rangoli o India. Mae Cynhyrchwyr Ifanc Amgueddfa Cymru yn gweithio gyda Chanolfan India i helpu i gyflwyno a churadu cynnwys ar gyfer y dathliad hwn o Diwali. 

Mae’r digwyddiad yma yn rhad ac am ddim.

 

Gweithgaredd ychwanegol i’w archebu! 

Sesiynau yoga a myfyrio

Ymunwch â ni am gyfres o sesiynau taith yoga sy’n anelu i dawelu, adfer a bywiogi eich meddwl a’ch corff. Mae’r sesiynau yn diwallu anghenion pobl o bob gallu.

 “Os allwch chi anadlu, gallwch chi wneud e!”

Bydd y sesiynau yn cael eu harwain gan hyfforddwyr: Dr Yogesh Nathdwarwala, Manmeet Kaur, a Sandhya Saldanha

Yoga Chwerthin gyda Dr Yogesh Nathdwarwala

11am ac 1pm

40 munud

Canolfan Ddysgu Weston

Stiwdio 3 

Ymunwch â Yogesh wrth iddo eich arwain trwy amrywiaeth o ymarferion sy’n hybu mwynhad a chwerthin. Bydd y sesiwn hon yn cynnwys technegau anadlu syml, curo dwylo a llafarganu.

Mae’r sesiynau yn diwallu anghenion pobl o bob gallu.

Cyfeiriad archebu tocynnau 

Tocynnau

Anadlu Adferol gyda Manmeet Kaur a Sandhya Saldanha

11.40am ac 1.40pm

40 munud

Canolfan Ddysgu Weston

Stiwdio 1

⁠Ymunwch â Manmeet Kaur and Sandhya Saldhana wrth iddyn nhw eich tywys drwy ymarfer anadlu yogig (pranayama). Gall pranyama ddod â’r meddwl i’r presennol yn gyflym a lleihau straen, ac fe’i hystyrir yn hanfodol ar gyfer datblygu llesiant corfforol, myfyrio, ymwybyddiaeth, a goleuedigaeth.

Mae’r sesiynau yn diwallu anghenion pobl o bob gallu.

Cyfeiriad archebu tocynnau 

Tocynnau

Mae’r sesiynau yn diwallu anghenion pobl o bob gallu.

Gwybodaeth

4 Tachwedd 2023, 10.30am-4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Llun: Dathliadau Diwali
Llun: Dathliadau Diwali
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau