Digwyddiad: Taith Queer Sain Ffagan
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen


Ymunwch ag Oska a Reg, dau o gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, ar daith cwiar o gwmpas Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. O wrthrychau o gasgliad LHDT+ Amgueddfa Cymru i'r adeiladau hanesyddol a'r gofodau sy'n dal naratif am hanes cymdeithasol pobl LHDT+ yng Nghymru.
Bydd sgwrs fach a chyflwyniad tu ôl i'r llenni o eitemau o gasgliad LHDTC+ Amgueddfa Cymru gan y curadur Mark Etheridge.
Mae projectau dan arweiniad pobl ifanc ar draws yr amgueddfa yn rhan o gynllun Dwylo ar Dreftadaeth, sy'n bosibl diolch i Grant Tynnu'r Llwch, Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Diolch i'r Gronfa ac i bob un o chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Cliciwch y linc er mwyn archebu eich tocyn AM DDIM -