Arddangosfa:Cymru... diolch am y GIG

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn perthyn i bobl Cymru. Mae ganddo le arbennig wrth galon ein cenedl. 

Cafodd ei sefydlu gan y Gweinidog Iechyd, Aneurin Bevan o Dredegar, a’i lansio ar 5 Gorffennaf 1948. Roedd ganddo weledigaeth ar gyfer gwasanaeth iechyd am ddim, wedi’i ysbrydoli gan gymdeithasau meddygol y gweithwyr yng nghymunedau maes glo de Cymru. 

Heddiw, mae GIG Cymru yn cyflogi dros 90,000 o staff ac yn cynnig gofal iechyd i tua 3 miliwn o bobl.

⁠Yn 2021, derbyniodd pob un o bedwar Gwasanaeth Iechyd Gwladol y DU Fedal Croes y Brenin Siôr i gydnabod gwaith pawb fu’n gweithio i’r GIG ers 1948. Roedd yr anrhydedd hefyd yn cydnabod dewrder ac ymroddiad gweithwyr iechyd yn ystod pandemig COVID-19. 

Bydd Medal Croes y Brenin Siôr yn cael ei dangos ochr yn ochr ag eitemau sy’n adrodd stori’r GIG yng Nghymru o’r dyddiau cynnar hyd at heddiw. 

Gwybodaeth

3 Mawrth 2023 – 5 Mawrth 2024
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Fedal Croes y Brenin Siôr

Y Fedal Croes y Brenin Siôr a gafodd ei rhoi i'r GIG yng Nghymru

Poster gyda'r geiriau 'God bless the NHS'
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau