Arddangosfa: Cymru... diolch am y GIG

Y Fedal Croes y Brenin Siôr a gafodd ei rhoi i'r GIG yng Nghymru

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn perthyn i bobl Cymru. Mae ganddo le arbennig wrth galon ein cenedl.
Cafodd ei sefydlu gan y Gweinidog Iechyd, Aneurin Bevan o Dredegar, a’i lansio ar 5 Gorffennaf 1948. Roedd ganddo weledigaeth ar gyfer gwasanaeth iechyd am ddim, wedi’i ysbrydoli gan gymdeithasau meddygol y gweithwyr yng nghymunedau maes glo de Cymru.
Heddiw, mae GIG Cymru yn cyflogi dros 90,000 o staff ac yn cynnig gofal iechyd i tua 3 miliwn o bobl.
Yn 2021, derbyniodd pob un o bedwar Gwasanaeth Iechyd Gwladol y DU Fedal Croes y Brenin Siôr i gydnabod gwaith pawb fu’n gweithio i’r GIG ers 1948. Roedd yr anrhydedd hefyd yn cydnabod dewrder ac ymroddiad gweithwyr iechyd yn ystod pandemig COVID-19.
Bydd Medal Croes y Brenin Siôr yn cael ei dangos ochr yn ochr ag eitemau sy’n adrodd stori’r GIG yng Nghymru o’r dyddiau cynnar hyd at heddiw.