Digwyddiadau

Digwyddiad: Gŵyl Ifan

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
22 Mehefin 2024
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Dewch i ddathlu Gŵyl Ifan yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru!

Gŵyl sy’n dathlu traddodiadau dawnsio gwerin Cymru a gwledydd tramor yw Gŵyl Ifan. 

Bob blwyddyn mae dawnswyr yn dod at ei gilydd i berfformio a diddanu’r cyhoedd gyda dawnsio trawiadol, gwisgoedd lliwgar, cerddoriaeth hwylus a defodau traddodiadol.

Ymunwch â ni i wylio Cwmni Dawns Werin Caerdydd yn perfformio dawnsio gwerin. 

Croeso cynnes i bawb!

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Cwmni Dawns Werin Caerdydd (cdwc.org)

*Gweithgareddau dawns yn ddibynnol ar y tywydd. 

Digwyddiadau