Digwyddiad:Dathlu Natur
Bydd ein gwyddonwyr o Amgueddfa Cymru yma i roi cipolwg i chi ar hynodrwydd byd natur yn ei holl amrywiaeth yng nghoedydd a gerddi Sain Ffagan.
Dewch i ddysgu gan ein harbenigwyr ym maes planhigion a phryfed o bob math.
Rydyn ni’n bartneriaid gyda llawer o elusennau byd natur lleol fydd yn cyfrannu eu harbenigedd at y diwrnod.
Pethau i’w Gwneud
- Ymuno â churaduron o’r adran Ddaeareg ar daith o gwmpas adeiladau Sain Ffagan i ddysgu mwy am y cerrig. Addas i oed 12+. Nifer cyfyngedig o seddi. Archebwch docyn yma
- Taith o gwmpas coed Gerddi’r Castell gyda’r Cadwraethydd Gardd, Luciana Skidmore. Addas i oed 8+. Nifer cyfyngedig o seddi. Archebwch docyn yma
- Taith o gwmpas coed yr adeiladau hanesyddol gyda churaduron botaneg. Addas i oed 8+. Nifer cyfyngedig o seddi.Archebwch docyn yma
- Mynd ar helfa natur ffôn clyfar. Mwy o wybodaeth isod i’ch helpu cyn cyrraedd.
- Gwneud gardd salad fechan gyda’r Wiwer Werdd.
- Chwarae ‘Ffosileiddio Ffyrnig’ neu gael taflen ffosilau i fynd i’r traeth. Ydw i wedi darganfod ffosil?
- Edrych ar rai o’r molysgiaid rhyfeddol o gasgliad yr Amgueddfa, yn ogystal ag ambell folwsg byw allech chi weld yn eich gardd chi. Malwod Dŵr Gerddi Cymru.
- Ymweld â’n stondin bryfed, sy’n llawn gemau a gwybodaeth am ein peillwyr prysur.
- Dysgu mwy am goed gwych Sain Ffagan – a beth am gymryd seibiant bach i ymdrochi yn y goedwig? Coed a llwyni collddail Cymru.
- Mae madarch a ffyngau i’w cael ar hyd y goedwig. Rhowch gynnig ar weithgareddau crefft madarchol.
- Creu hudlath helyg gyda Welsh Baskets.
- Dysgu am y mwsoglau a phlanhigion y ddôl yn Sain Ffagan, a chreu cerdyn gyda phlanhigyn wedi’i wasgu. Ydw i wedi canfod mwsogl?
- Lawrlwytho ein taflen adnabod adar yr ardd, a’i defnyddio yn y guddfan adar wrth wylio. Adar Cyffredin yr Ardd.
- Dysgu mwy am y cerrig a ddefnyddiwyd i adeiladu tai hanesyddol Sain Ffagan. A wyddech chi: Mae Sefydliad y Gweithwyr Oakdale wedi’i adeiladu o dywodfaen, gafodd ei ffurfio 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl, pan oedd afonydd, corsydd a fforestydd trofannol mawr yn gorchuddio Cymru!
- Dilyn ein llwybr natur o gwmpas yr amgueddfa – rydyn ni wedi cuddio 10 anifail pren o gwmpas y safle – sawl un allwch chi eu gweld?
Mwy o wybodaeth
Os ydych chi wedi archebu tocyn i fynd ar daith, ewch at y ddesg yn y Brif Fynedfa.
- Er mwyn peidio gwastraffu papur, rydyn ni’n defnyddio codau QR ar gyfer taflenni adnabod a mapiau lle bo’n bosibl.
- Helfa natur ffôn clyfar – rydyn ni’n defnyddio ap o’r enw iNaturalist ar gyfer hyn. Gallwch ei lawrlwytho i’ch ffôn a chofrestru cyn dod i’r Amgueddfa. I’ch helpu i wneud y mwyaf o’r ap, bydd ein curaduron yn cynnal sesiynau anffurfiol am 11am, 12pm, 1pm, 2pm a 3pm. Bydd hyn yn cynnwys esbonio o’r ap fydd yn para rhyw 5–10 munud, a thaith fer. Does dim rhaid i chi fynd i un o’r sesiynau – gallwch ddefnyddio’r ap o gwmpas y safle unrhyw adeg.
Diolch am gefnogaeth chwaraewyr y People's Postcode Lottery.
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
O ddydd Llun 4 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor rhwng 10am-4pm bob dydd.
Ar gau 8 Ionawr 2025 ar gyfer hyfforddiant staff.
Parcio
Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis am £30. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa.
Mynediad
> Canllaw MynediadGwybodaeth Diogelwch ar gyfer Ymwelwyr
Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:
- Pyllau dŵr a llynnoedd
- Perygl o faglu ar lwybrau a stepiau anwastad
- Arwynebedd llithrig llwybrau, llethrau a mannau glaswelltog
Lleoliad
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd