Digwyddiadau

Digwyddiad: Dathlu Natur

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
1 Gorffennaf 2023, 10am - 4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Teuluoedd
Coed

Dewch aton ni i ddathlu’r cyfoeth o fyd natur yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. 

Bydd ein gwyddonwyr o Amgueddfa Cymru yma i roi cipolwg i chi ar hynodrwydd byd natur yn ei holl amrywiaeth yng nghoedydd a gerddi Sain Ffagan. 

Dewch i ddysgu gan ein harbenigwyr ym maes planhigion a phryfed o bob math. 

Rydyn ni’n bartneriaid gyda llawer o elusennau byd natur lleol fydd yn cyfrannu eu harbenigedd at y diwrnod. 

Pethau i’w Gwneud

  • Ymuno â churaduron o’r adran Ddaeareg ar daith o gwmpas adeiladau Sain Ffagan i ddysgu mwy am y cerrig. Addas i oed 12+. Nifer cyfyngedig o seddi. Archebwch docyn yma

  • Taith o gwmpas coed Gerddi’r Castell gyda’r Cadwraethydd Gardd, Luciana Skidmore. Addas i oed 8+. Nifer cyfyngedig o seddi. Archebwch docyn yma

  • Taith o gwmpas coed yr adeiladau hanesyddol gyda churaduron botaneg. Addas i oed 8+. Nifer cyfyngedig o seddi.Archebwch docyn yma

  • Mynd ar helfa natur ffôn clyfar. Mwy o wybodaeth isod i’ch helpu cyn cyrraedd.

  • Gwneud gardd salad fechan gyda’r Wiwer Werdd.

  • Chwarae ‘Ffosileiddio Ffyrnig’ neu gael taflen ffosilau i fynd i’r traeth. Ydw i wedi darganfod ffosil?

  • Edrych ar rai o’r molysgiaid rhyfeddol o gasgliad yr Amgueddfa, yn ogystal ag ambell folwsg byw allech chi weld yn eich gardd chi. Malwod Dŵr Gerddi Cymru.

  • Ymweld â’n stondin bryfed, sy’n llawn gemau a gwybodaeth am ein peillwyr prysur.

  • Dysgu mwy am goed gwych Sain Ffagan – a beth am gymryd seibiant bach i ymdrochi yn y goedwig? Coed a llwyni collddail Cymru.

  • Mae madarch a ffyngau i’w cael ar hyd y goedwig. Rhowch gynnig ar weithgareddau crefft madarchol.

  • Creu hudlath helyg gyda Welsh Baskets.

  • Dysgu am y mwsoglau a phlanhigion y ddôl yn Sain Ffagan, a chreu cerdyn gyda phlanhigyn wedi’i wasgu. Ydw i wedi canfod mwsogl?

  • Lawrlwytho ein taflen adnabod adar yr ardd, a’i defnyddio yn y guddfan adar wrth wylio. Adar Cyffredin yr Ardd.

  • Dysgu mwy am y cerrig a ddefnyddiwyd i adeiladu tai hanesyddol Sain Ffagan. A wyddech chi: Mae Sefydliad y Gweithwyr Oakdale wedi’i adeiladu o dywodfaen, gafodd ei ffurfio 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl, pan oedd afonydd, corsydd a fforestydd trofannol mawr yn gorchuddio Cymru!

  • Dilyn ein llwybr natur o gwmpas yr amgueddfa – rydyn ni wedi cuddio 10 anifail pren o gwmpas y safle – sawl un allwch chi eu gweld?

Mwy o wybodaeth

Os ydych chi wedi archebu tocyn i fynd ar daith, ewch at y ddesg yn y Brif Fynedfa.

  • Er mwyn peidio gwastraffu papur, rydyn ni’n defnyddio codau QR ar gyfer taflenni adnabod a mapiau lle bo’n bosibl. 

  • Helfa natur ffôn clyfar – rydyn ni’n defnyddio ap o’r enw iNaturalist ar gyfer hyn. Gallwch ei lawrlwytho i’ch ffôn a chofrestru cyn dod i’r Amgueddfa. I’ch helpu i wneud y mwyaf o’r ap, bydd ein curaduron yn cynnal sesiynau anffurfiol am 11am, 12pm, 1pm, 2pm a 3pm. Bydd hyn yn cynnwys esbonio o’r ap fydd yn para rhyw 5–10 munud, a thaith fer. Does dim rhaid i chi fynd i un o’r sesiynau – gallwch ddefnyddio’r ap o gwmpas y safle unrhyw adeg.

Diolch am gefnogaeth chwaraewyr y People's Postcode Lottery.

Digwyddiadau